P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn cefnogi ac o blaid unrhyw gynnig i adeiladu croesfan newydd dros afon Dyfi (neu i ailgyfeirio ffordd yr A487) i gysylltu de Meirionnydd â Phowys, Dyfed a Cheredigion, a hynny er mwyn bodloni ac addasu i ofynion traffig modern, ac rydym yn annog y dylid rhoi blaenoriaeth i ariannu a rhoi cychwyn ar unrhyw gynnig o’r fath. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i’r prosiect.

Cynigwyd gan: Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mis Chwefror 2011

Nifer y llofnodion:3,204